acyfeiriad at Numeri 14:29,30
dcyfeiriad at Genesis 19:23-29
icyfeiriad at 1 Enoch 1:9

Jwdas

Jude

1Llythyr gan Jwdas, gwas i Iesu Grist a brawd Iago,

Atoch chi sydd wedi eich galw i berthynas gyda Duw y Tad, sy'n eich cofleidio chi â'i gariad, a gyda Iesu Grist sy'n gofalu amdanoch chi:

2Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei drugaredd, ei heddwch dwfn a'i gariad di-ben-draw arnoch chi!

Pechod a thynged pobl annuwiol

3Ffrindiau annwyl, roeddwn i'n awyddus iawn i ysgrifennu atoch chi am y bywyd newydd dŷn ni'n ei rannu gyda'n gilydd. Ond nawr mae'n rhaid i mi ysgrifennu i'ch annog chi i wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi ei roi i'w bobl un waith ac am byth. 4Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma yn dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni.

5Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon. a 6Wedyn beth am yr angylion
1:6 angylion: Falle yn cyfeirio at Genesis 6:2.
hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi eu rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi.
7A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion!
1:7 eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylionY geiriad yn y Roeg ydy, “mynd ar ôl cnawd gwahanol”. Mae'n cyfeirio at beth ddigwyddodd yn Genesis 19:4,5
Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb. d

8Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus. 9Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” e ddwedodd e. 10Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!

11Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain.
1:11 esiampl Cain: Dyma Cain yn lladd ei frawd Abel.
Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian.
1:11 Balaam: Mae'r hanes beiblaidd yn dweud fod Balaam wedi gwrthod melltithio pobl Israel am arian (gw. Numeri 22:18; 24:13), ond roedd athrawon Iddewig yn dysgu fod Balaam wedi derbyn arian.
Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora,
1:11 fel Cora: Roedd Cora wedi arwain gwrthryfel yn erbyn Moses ac Aaron (gw. Numeri 16:1-35; 26:9,10).
a byddan nhw'n cael eu dinistrio!

12Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dyn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw,

Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw,
a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd.
Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw –
yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio!
13Fel tonnau gwyllt y môr,
yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd.
Fel sêr gwib yn y gofod,
a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth!

14Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd. 15Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi eu gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi eu dweud amdano.” i 16Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio eu hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw!

Galwad i ddal ati

17Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn. 18“Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.” 19Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy'n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy'n eu rheoli nhw. A dydy'r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr!

20Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy'n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae'r Ysbryd Glân yn eich arwain chi. 21Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi.

22Byddwch yn amyneddgar gyda'r
1:22 Byddwch yn amyneddgar gyda'r: Mae rhai llawysgrifau yn dweud Cywirwch y.
rhai sy'n ansicr.
23Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron!

Cân o fawl

24Clod i Dduw! Fe ydy'r un sy'n gallu'ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i'w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel! 25Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.

Copyright information for CYM